The eagerly awaited Infrastructure (Wales) Bill (“the Bill”) and Explanatory Memorandum were laid before Senedd Cymru (“the Senedd”) on 12 June 2023 with an oral statement made to the Senedd on 13 June 2023 by the Climate Change Minister Julie James. The Bill introduces a new unified consenting process for Wales to apply to “Significant Infrastructure Projects” on land and in the territorial sea and will replace the existing DNS consenting regime. The output will be a Welsh infrastructure consent (WIC) which will provide a one stop shop to obtaining consents, licences and other requirements in a single consent, similar to a DCO in England. Julie James has described the Bill as an ‘important step’ towards delivering on renewable energy targets as Wales moves towards net zero by 2050 and aims to promote transparency and certainty in decision making, as well as incorporate flexibility to capture developing technologies and the devolution of further powers.

 The Bill sets out the relevant types and sizes of significant infrastructure projects and includes both compulsory and optional thresholds. Those projects that fall within the optional thresholds will have a choice of applying for a WIC or planning permission from the local planning authority. The proposed thresholds were set out in Figure 4.3 of the Welsh Government 2018 Consultation “Changes to the approval of infrastructure development” and relate to electricity infrastructure, oil, gas and minerals, transport, water and waste. For example, for onshore wind farms, a WIC will be required for the construction of the generating station with an installed generating capacity of over 50MW and will be optional for the construction of those with an installed capacity of between 10MW and 50MW and the alteration or extension of a generating station with an increase in generating capacity of at least 10MW. 

The Bill requires that statutory consultees will be consulted at the pre-application stage by applicants, and at the examination stage by the Welsh Ministers. Where they are consulted, a substantive and timely response is required from the relevant statutory consultee. Consulted bodies will be required to provide an annual report to the Welsh Ministers on their compliance with requirements set out in subordinate legislation. The list of authorities and bodies to be identified as statutory consultees will be set out in the subordinate legislation, but it is anticipated that many of the authorities and bodies currently consulted for the DNS process will also be statutory consultees for the purpose of the WIC process. If an infrastructure project crosses the territorial water outside the 200 mile zone or it crosses the Welsh-English border, the Bill sets out the requirements for cross-border consultation.

The Bill also details the procedures for compulsory acquisition of land, breaches and enforcement and the mechanism for full cost recovery to ensure local planning authorities, the Welsh Ministers and consultees receive some income from the fees.

The Bill contains several powers to make subordinate legislation, which will set out much of the procedural detail required to make the consenting process fully operational in order to allow for maximum flexibility. For example, it proposes that the content of the application form should be set out in regulations so that they can be updated regularly. We will be tracking the Bill as it progresses through the scrutiny process and will keep you updated; it is currently expected to come into force with transitional provisions in Summer 2025. Please contact Liz Dunn, Cathryn Tracey or Maelor James for any queries on the Bill or consenting significant infrastructure projects in Wales.

Welsh translation below

Cyflwynwyd Bil Seilwaith (Cymru) (“y Bil”) a’r Memorandwm Esboniadol gerbron Senedd Cymru (“y Senedd”) ar 12 Mehefin 2023 gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James yn gwneud datganiad llafar i’r Senedd ar 13 Mehefin 2023. Mae’r Bil yn cyflwyno proses gydsynio unedig newydd i Gymru i fod yn berthnasol i “Brosiectau Seilwaith Arwyddocaol” ar y tir ac yn y môr tiriogaethol a bydd yn disodli’r drefn gydsynio DNS bresennol. Y canlyniad fydd Caniatâd Seilwaith yng Nghymru (WIC) a fydd yn darparu un broses ar gyfer cael caniatâd, trwyddedau a gofynion eraill, yn debyg i DCO yn Lloegr. Mae Julie James wedi disgrifio’r Bil fel ‘cam pwysig’ tuag at gyflawni targedau ynni adnewyddadwy wrth i Gymru symud tuag at sero net erbyn 2050 a’i nod yw hyrwyddo sicrwydd wrth wneud penderfyniadau, yn ogystal a chreu ffordd i ddal technolegau sy’n datblygu ac i ddatganoli pwerau pellach.

Mae’r Bil yn nodi’r mathau a’r meintiau o’r prosiectau seilwaith sylweddol sy’n cynnwys agweddau gorfodol a dewisol. Bydd y prosiectau hynny sy'n dod o fewn y trothwyon dewisol yn cael dewis gwneud cais am WIC neu ganiatâd cynllunio gan yr awdurdod cynllunio lleol. Mae’r trothwyon arfaethedig wedi’u nodi yn Ffigur 4.3 o Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru o 2018 “Newidiadau i’r broses or roi caniatâd seilwaith” ac maent yn ymwneud â seilwaith trydan, olew, nwy a mwynau, trafnidiaeth, dŵr a gwastraff. Er enghraifft, ar gyfer ffermydd gwynt ar y tir, bydd angen WIC ar gyfer adeiladu gorsaf gynhyrchu gyda chapasiti cynhyrchu gosodedig dros 50MW a bydd yn ddewisol ar gyfer adeiladu’r rhai sydd â chapasiti gosodedig rhwng 10MW a 50MW ac i newid neu ymestyn gorsaf gynhyrchu gyda chynnydd mewn capasiti cynhyrchu o 10MW o leiaf.

Mae’r Bil yn gorfodi i ymgeiswyr ymgynghori ag ymgyngoreion statudol cyn ymgeisio, ac yn ystod y cyfnod archwilio gan Weinidogion Cymru. Bydd yn rhaid i ymgynghorai statudol anfon ymateb sylweddol ac amserol os cawsant eu hymgynghori. Bydd yn ofynnol i gyrff a gafodd eu hymgynghori ddarparu adroddiad blynyddol i Weinidogion Cymru ar eu cydymffurfiaeth â gofynion a nodir mewn is-ddeddfwriaeth. Bydd y rhestr o awdurdodau a chyrff sydd i’w nodi fel ymgyngoreion statudol yn cael ei nodi yn yr is-ddeddfwriaeth, ond rhagwelir y bydd llawer o’r un awdurdodau a’r cyrff sydd yn rhan o’r broses DNS hefyd yn ymgyngoreion statudol ar gyfer y broses WIC. Os yw prosiect seilwaith yn croesi’r dŵr tiriogaethol y tu allan i 200 milltir neu’n croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr, mae’r Bil yn nodi’r gofynion ar gyfer ymgynghori trawsffiniol.

Mae’r Bil hefyd yn manylu ar y broses o gaffael tir yn orfodol, achosion o dorri amodau a gorfodi a’r mecanwaith ar gyfer adennill costau’n llawn er mwyn sicrhau bod awdurdodau cynllunio lleol, Gweinidogion Cymru ac ymgyngoreion yn cael rhywfaint o incwm o’r ffioedd.

Mae’r Bil yn cynnwys sawl pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth, a fydd yn nodi llawer o’r manylion gweithdrefnol sydd eu hangen i wneud y broses gydsynio yn gwbl weithredol er mwyn sicrhau yr hyblygrwydd mwyaf posibl. Er enghraifft, mae’n cynnig y dylai cynnwys y ffurflen gais gael ei nodi mewn rheoliadau fel y gellir eu diweddaru’n rheolaidd. Byddwn yn dilyn y Bil wrth iddo fynd drwy’r broses llawn a byddwn yn medru rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi. Disgwylir iddo ddod i rym ar hyn o bryd gyda darpariaethau trosiannol yn Haf 2025. Cysylltwch â Liz Dunn, Cathryn Tracey neu Maelor James ar gyfer unrhyw ymholiadau am y Bil neu ynglyn â chaniatáu prosiectau seilwaith sylweddol yng Nghymru.