The Infrastructure (Wales) Bill was passed by the Senedd on 16 April 2024. We previously published a blog summarising the Infrastructure (Wales) Bill (the “Bill”) which is linked here. The Bill was introduced to Senedd Cymru (the “Senedd”) in July 2023 and sets in place a new consenting process for significant infrastructure projects in Wales. The Bill replaces the existing DNS consenting regime, creating a more streamlined process which it is hoped will encourage investment into significant infrastructure projects in Wales.

Since the Bill was first introduced to the Senedd, the changes to it have been fairly limited. We have set out below what we consider to be the key changes between the Bill as introduced to the Senedd in 2023 and the Bill as passed. 

  • Procedure for examination: The relevant provisions that deal with examination and how an application should be decided were amended slightly between the initial bill and the final bill as passed. Section 58 (previously section 55) adds detail in relation to matters which may be disregarded when examining an application. In particular, this section allows the examining authority to disregard representations which are considered to be vexatious or frivolous, or those which relate to the merits of policy. Expressly enabling the decision maker to disregard representations of this nature  will hopefully allow for more focus on the key planning issues.
  • Climate change: An alteration to section 57 (previously section 54) means that an examining authority or Welsh Ministers must have regard to ‘the desirability of mitigating, and adapting to, climate change’ when deciding an application. 
  • Site inspections: Section 45 (previously section 43) has been amended to provide further provisions around site inspections under examination powers. This includes a requirement to provide 14 days’ notice to the occupier prior to attending an occupied part of any site, as well as introducing a summary offence for a person intentionally obstructing the exercise of powers allowing an authorised person to attend the site on reasonable notice for the purpose of inspection in connection with an examination. 
  • Open Floor Hearings: A further point to note is that the new section 43 allows for regulations to require an examining authority to undertake open floor hearings. It is not specified what circumstances this power may be used in, and it is anticipated that further detail on this will follow in secondary legislation. 

The Bill is a framework bill and we will not know much of the detail until the secondary legislation is published for consultation, which we anticipate will be during the Summer or Autumn of 2024. This further detail is essential to enable practitioners and those involved in  projects to better understand the details of the new regime  and the extent to which it provides improvements to the existing regime. 

In the meantime the Senedd has launched two consultations: the first is a call for evidence in relation to the pre-application consultation procedure, and the second is in relation to the fees for the consenting process. The consultations close on 22 July 2024.

We will be holding a webinar focussing on a Welsh planning update at the end of June. Invites will be sent out shortly and we hope you can join us. In the meantime, please contact Liz Dunn, Cathryn Tracey or Maelor James with any queries on the Bill or consenting infrastructure projects in Wales.

***Welsh language translation***

Diweddariad Cyfreithiol – Bil Seilwaith (Cymru)

Pasiwyd Bil Seilwaith (Cymru) gan y Senedd ar 16 Ebrill 2024. Yn flaenorol, gwnaethom gyhoeddi blog yn crynhoi Bil Seilwaith (Cymru) (y “Bil”) sydd ar gael yma. Cyflwynwyd y Bil i Senedd Cymru (y “Senedd”) ym mis Gorffennaf 2023 a mae’n sefydlu proses gydsynio newydd ar gyfer prosiectau seilwaith sylweddol yng Nghymru. Mae’r Bil yn disodli’r drefn gydsynio DNS bresennol, gan greu proses symlach er mwyn annog buddsoddiad mewn prosiectau seilwaith sylweddol yng Nghymru.

Ers i’r Bil gael ei gyflwyno i’r Senedd am y tro cyntaf, mae’r newidiadau wedi bod yn weddol gyfyngedig. Rydym wedi nodi isod yr hyn a ystyriwn fel y newidiadau allweddol rhwng y Bil fel y cafodd ei gyflwyno i’r Senedd yn 2023 a’r Bil fel y pasiwyd.

  • Y drefn archwilio: Newidwyd ychydig ar agweddau o’r Bil sy'n ymdrin ag archwilio a sut y dylid penderfynu ceisiadau rhwng y bil cychwynnol a'r bil terfynol. Mae adran 58 (adran 55 yn flaenorol) yn ychwanegu manylion ynglyn â materion a all gael eu diystyru wrth archwilio cais. Yn benodol, mae’r adran hon yn caniatáu i’r awdurdod archwilio ddiystyru sylwadau sydd yn flinderus neu’n wacsaw, neu’r rhai sy’n ymwneud â rhinweddau polisi. Y gobaith yw y bydd hwn yn galluogi'r penderfynwr i ddiystyru sylwadau o'r math hwn ac yn caniatáu mwy o ffocws ar y materion cynllunio allweddol.
  • Newid hinsawdd: Mae newid i adran 57 (adran 54 yn flaenorol) yn golygu bod yn rhaid i awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru roi sylw i ‘dymunoldeb lliniaru newid hinsawdd ac ymaddasu iddo’ wrth benderfynu ar gais.
  • Archwiliadau safle: Mae adran 45 (adran 43 yn flaenorol) wedi'i newid i ddarparu manylion pellach ynglyn â archwiliadau safle o dan bwerau archwilio. Mae hyn yn cynnwys gofyniad i roi 14 diwrnod o rybudd i’r meddiannydd cyn mynychu rhan o unrhyw safle. Yn ogystal, mae’r adran yma yn cyflwyno trosedd i berson sy’n rhwystro’n fwriadol unrhyw berson sy’n gweithredu wrth arfer pŵer o dan yr adran yma.
  • Gwrandawiadau Llawr Agored: Pwynt arall i'w nodi yw bod yr adran 43 newydd yn caniatáu rheoliadau i'w gwneud yn ofynnol i awdurdod archwilio beri bod gwrandawiad llawr agored yn cael ei gynnal o dan yr amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau. Ni nodir ym mha amgylchiadau y gellir defnyddio’r pŵer hwn, a rhagwelir y bydd rhagor o fanylion am hyn yn dilyn mewn is-ddeddfwriaeth.

Bil fframwaith yw’r Bil ac ni fyddwn yn gwybod llawer o’r manylion nes i’r is-ddeddfwriaeth gael ei chyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad. Rydym yn rhagweld y bydd hynny yn ystod haf neu hydref 2024. Mae’r manylion pellach hyn yn hanfodol i alluogi ymarferwyr a’r rhai sy’n ymwneud â phrosiectau i ddeall yn well fanylion y drefn newydd ac i ba raddau y mae'n darparu gwelliannau i'r drefn bresennol.

Yn y cyfamser mae’r Senedd wedi lansio dau ymgynghoriad: mae’r cyntaf yn alwad am dystiolaeth mewn perthynas â’r weithdrefn ymgynghori cyn ymgeisio, ac mae’r ail yn ymwneud â’r ffioedd ar gyfer y broses gydsynio. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 22 Gorffennaf 2024.

Byddwn yn cynnal gweminar yn canolbwyntio ar ddiweddariadau cynllunio Cymru ar ddiwedd Mehefin. Bydd gwahoddiadau yn cael eu hanfon yn fuan a gobeithiwn y gallwch ymuno â ni. Yn y cyfamser, cysylltwch â Liz Dunn, Cathryn Tracey neu Maelor James gydag unrhyw ymholiadau am y Bil neu ynglyn â chaniatáu prosiectau seilwaith yng Nghymru.